Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.10 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Nick Ramsay AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Isobel Garner, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Steve O’Donoghue, Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Meadon, Swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Susan Hudson, Swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Richard Bettley (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod yr adroddiad drafft
1.1 Gwnaeth y Pwyllgor newidiadau i’r adroddiad drafft a chytunodd ar fersiwn derfynol i’w chyhoeddi ar 11 Tachwedd 2014.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor a nododd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Alun Ffred Jones ac Ann Jones.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
4 Swyddfa Archwilio Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2013-14
4.1 Trafododd y Pwyllgor eitemau 4 i 7 gyda’i gilydd.
4.2 Bu’r Aelodau’n craffu ar waith Isobel Garner, y Cadeirydd; Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Steven O’Donoghue, y Cyfarwyddwr Cyllid a Kevin Thomas, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2013-14.
5 Swyddfa Archwilio Cymru: Amcangyfrif o incwm a threuliau ar gyfer 2015-16
6 Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad gan archwilwyr allanol ar y cyfrifon ar gyfer 2013-14
7 Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad Interim ar gyfer 2014-15
8 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Craffu ar yr amcangyfrif ar gyfer 2015-16
8.1 Bu’r Aelodau’n craffu ar waith Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; David Meaden, y Cyfrifydd Ariannol a Susan Hudson, y Rheolwr Polisi a Chyfathrebu ar yr amcangyfrrif Ombwdsman Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2015-16 .
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10 Swyddfa Archwilio Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a nodwyd y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i’w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 12 Tachwedd 2014.
11 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a nodwyd y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i’w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 12 Tachwedd 2014.